Scroll down for English version
GWYBODAETH COVID-19
Cyngor i drigolion lleol
Mae Grwp Cymorth Cymunedol Llandeilo yn gofyn i drigolion yr ardal i gadw llygad barcud ar gymdogion, yn wenwedig y rhai gwyddoch ei bod mewn iechyd gwael neu sydd â pherthnasau yn byw pellter i ffwrdd ac yn methu ymweld â nhw. Rydym yn gymuned ofalgar felly gadewch i ni ddangos hynny.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor/canllawiau ar ei wefan ac mae’n cynnwys cyngor ar symptomau a phryd i hunanwahanu. Dylech ystyried hunanwahanu os gennych un o’r canlynol:-
- Tymheredd uchel
- Peswch sych newydd
Maent yn eich cynghori i beidio ag ymweld â’ch meddygfa leol oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol. Hefyd maent yn awgrymu na ddylech gysylltu â llinell ffôn GIG 111 oni bai:-
- Rydych yn teimlo na allwch chi ymdopi a’ch symptomau gartref
- Mae eich cyflwr yn gwaethygu
- Nid yw’ch symptomau’n gwella ar ol 7 diwrnod
Yn ardal Llandeilo mae nifer o sefydliadau bwyd lleol fel Y Gwili Café, Angel Inn, Mrs Browns, Y Hangout, Café 139 a’r Ginhaus yn cynnig gwasanaeth dosbarthu prydiau bwyd ‘Take Away’ ac yn siwr y bydd busnesau eraill hefyd yn helpu. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweithredu gwasanaeth trwy Les Lleisiant Delta 0300 3332222 a gall eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill.
Mae yna grwp o gwirfoddolwyr wedi’w sefydlu, i helpu gyda siopa a casglu nwyddau, cerdded ci a.y.y.b
Ebost – llandeilocovid19@mail.com
Ffôn – 07395 949914
Facebook – Llandeilo Covid-19 Community Support Group
Felly gofalwch amdanoch chi’ch hun a’ch cymdogion, osgoi crynoadau mawr ac rydym yn sicr o ddod trwy hyn.
Age Cymru ‘check-in-and-chat’ gwasanaeth ffon am ddim
i dros 70au ☎️ 08000 223 444
Diolch a cadwch yn saff
Advice to local residents
Llandeilo Support Group is asking all residents to keep a watchful eye on neighbors, especially those you may know are in poor health or have relatives living away, who might not be able to visit. We are a caring community so let’s show it.
Public Health Wales has advice/guidelines on its website, and it includes advice regarding the symptoms and when to self-isolate. You should consider self-isolating if you have one of the following:-
- High Temperature
- A New dry cough
They are advising you not to visit your local surgery unless strictly necessary. Also they are suggesting that you should not contact NHS 111 Telephone line unless:-
- You feel you cannot cope with your symptoms at home
- Your condition gets worse
- Your symptoms do not get better after 7 days
In the Llandeilo area, a number of local food establishments such as The Gwili Café, Angel Inn, Mrs Browns, Hangout, Café 139 and Ginhaus are offering a takeaway meal delivery service and other businesses may also help in any way they can. Carmarthenshire County Council operates a service via Lleisant Delta Wellbeing 0300 3332222 and may put you in touch with other services.
Email – llandeilocovid19@mail.com
Phone – 07395 949914
Facebook – Llandeilo Covid-19 Community Support Group
Please take care of yourselves and your neighbors. Avoid large gatherings and we are sure to come through this.
Age Cymru free check-in-and-chat telephone service for the over 70s in Wales helpline ☎️ 08000 223 444
Thank you and stay safe