MACMILLAN Cancer Support and F C N Cymru partnership

Trwy bartneriaeth gyda Chymorth Canser Macmillan rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddeall anghydraddoldebau iechyd yn well mewn cymunedau gwledig, herio rhwystrau i ofal canser a chryfhau cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan ganser.

Through a partnership with Macmillan Cancer Support we are working together to better understand health inequalities in rural communities, challenge barriers to cancer care and to strengthen support for people affected by cancer.

Mae FCN Cymru yn sefydliad gwirfoddol ac elusen sy’n ceisio gwella iechyd a lles pobl ym myd ffermio a cherdded gyda phobl ar adegau o anhawster a newid.

Mae gan FCN Cymru rwydwaith eang o wirfoddolwyr, llawer ohonynt yn ymwneud â ffermio, neu â chysylltiadau agos ag amaethyddiaeth ac felly â dealltwriaeth wych o’r problemau y mae gweithwyr fferm a theuluoedd ffermio yn eu hwynebu’n rheolaidd. Mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sy’n ceisio cymorth, p’un a yw’r mater yn un personol neu fusnes.

Yn ogystal â grwpiau lleol o wirfoddolwyr, mae FCN yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol gyfrinachol (03000 111 999, ar agor 7yb-11yh bob dydd o’r flwyddyn) ac e-linell gymorth ( help@fcn.org.uk ).

Bydd ein gwirfoddolwyr yn “cerdded gydag” unrhyw un sy’n ceisio cefnogaeth ac yn eu helpu i ddod o hyd i ffordd gadarnhaol trwy eu problemau. Rydym yn delio ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys anawsterau ariannol, afiechyd anifeiliaid, salwch meddwl ac anghydfodau teuluol.

Mae FCN hefyd yn gweithredu llwyfannau FarmWell Wales ( https://farmwell.wales/ ) a FarmWell Cymru ( https://farmwell.cymru/ ) gwefannau ar gyfer gwybodaeth i gefnogi eich busnes fferm a datblygu gwytnwch personol.

The Farming Community Network (FCN Cymru) is a voluntary organisation and charity that aims to improve the health and wellbeing of people in farming and ‘walk with’ people at times of difficulty and change.

FCN Cymru has a wide network of volunteers, many of whom are involved in farming, or have close links with agriculture and therefore have a great understanding of the issues farm workers and farming families regularly face. Our volunteers provide free and confidential support to anyone who seeks help, regardless of whether the issue is personal or business-related.

In addition to local groups of volunteers, FCN runs a confidential national helpline (03000 111 999, open 7am-11pm every day of the year) and e-helpline (help@fcn.org.uk).

Our volunteers will “walk with” anyone who seeks support and help them find a positive way through their problems. We deal with a variety of issues, including financial difficulties, animal disease, mental ill-health and family disputes.

FCN also operates the FarmWell Wales (https://farmwell.wales/) and FarmWell Cymru (https://farmwell.cymru/) platforms – a one-stop shop for information to support your farm business and develop personal resilience.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â /For further information contact

Linda Jones (linda@fcn.org.uk)

Rachael Aka (rachael@fcn.org.uk)

Falmai Ellis (falmai@fcn.org.uk)

Leave a comment